Swyddfa Cymru - Archif
Cyfarfodydd
Meetings October – December 2009 (English)
Tryloywder
Transparency Q1 2010 (English)
Teithwyr o Gymru sy’n methu dod adref i gael cymorth gan lywodraeth y Deyrnas Unedig, medd Peter Hain
Heddiw, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Peter Hain, fod cefnogi dinasyddion Cymru sy’n methu dod adref o dramor oherwydd y lludw folcanig ar frig rhestr flaenoriaethau’r Llywodraeth. Dywedodd y byddai’r Llywodraeth yn gwneud popeth o fewn ei gallu i helpu’r bobl sy’n cael trafferth dychwelyd i’r DU ac i sicrhau yr amherir cyn lleied â phosibl ar y rheini sy’n dymuno hedfan o’r DU.Yn dilyn cyfarfod pwyllgor brys Llywodraeth y DU, sef Cobra, dywedodd Mr Hain y byddai diogelwch pobl yn parhau’n brif flaenoriaeth.
Dywedodd Mr Hain: “Gwn fod yr anhwylustod yr ydym wedi’i weld o ran teithio mewn awyrennau dros yr ychydig ddyddiau diwethaf wedi peri problemau aruthrol i filoedd o bobl sy’n ceisio dychwelyd i Gymru. Rwyf wedi siarad â Prif Weinidog Cymru y bore yma, ac mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio’n galed i roi cynlluniau ar waith i gynorthwyo pobl.
“Rydym eisoes wedi cynyddu’r capasiti ar draws y Sianel, gan roi trenau ychwanegol ar y rheilffyrdd rhwng Llundain, Paris a Brwsel. Hefyd, mae’r Prif Weinidog wedi cyhoeddi’r bore yma bod tair o longau’r llynges – HMS Ark Royal, HMS Ocean a HMS Albion ar eu ffordd i Sbaen ac i borthladdoedd eraill y Sianel i helpu i gludo pobl adref.
“Er mwyn i ragor o bobl allu cyrraedd adref o leoedd sy’n bellach i ffwrdd, byddwn hefyd yn cynnal trafodaethau â’r cwmnïau hedfan ynglŷn â threfniadau wrth gefn eraill yn ychwanegol at y rheini sydd eisoes ar waith. Mae hyn yn cynnwys ystyried defnyddio Sbaen fel pwynt canolog os nad yw awyrennau’n gallu dychwelyd adref yn yr ychydig ddyddiau nesaf.
“Er bod gwaith yn parhau i fynd rhagddo i helpu i gael pobl adref, hoffwn sicrhau pawb mai eu diogelwch yw ein prif flaenoriaeth. Rydym yn gweithio gyda’r holl awdurdodau perthnasol yng nghyswllt y sefyllfa a byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i bobl wrth i’r sefyllfa newid.”
Nodiadau:
Os oes rhywun yn perthyn i ddinasyddion o’r DU sy’n methu dod adref, ac yn poeni am ddiogelwch neu les eu hanwyliaid, mae rhif mewn argyfwng ar gael, sef 020 7008 0000.
Wayne David yn agor canolfan datblygu technoleg newydd Norgine yn Hengoed
Heddiw [dydd Gwener 26 Mawrth] yn Hengoed, De Cymru, bu Wayne David, Gweinidog Swyddfa Cymru, yn agor Canolfan Datblygu Technoleg newydd grŵp fferyllol Norgine yn swyddogol. Mae hi’n Ganolfan o’r radd flaenaf sy’n werth £4 miliwn.Bydd y Ganolfan newydd, a fydd yn cynnwys cyfres o labordai modern, yn creu oddeutu 20 o swyddi newydd ac yn cefnogi gweithgynhyrchu fferyllol a datblygu cynnyrch newydd.
Wrth siarad yn y lansiad, dywedodd Mr David: “Mae Norgine yn gwmni fferyllol sy’n darparu ar draws Ewrop gyfan, ac mae ganddo enw arbennig o dda bedwar ban byd. Bydd y cyfleuster newydd hwn yn ymestyn presenoldeb y cwmni yma yn Hengoed ac yn dod yn ganolfan ragoriaeth wirioneddol ar gyfer ymchwil a datblygu.
“Bydd yr 20 o swyddi newydd a fydd yn cael eu creu o ganlyniad i’r buddsoddiad hwn hefyd yn rhoi hwb i’r economi leol, sy’n bendant yn rhywbeth i’w groesawu. Mae gan Norgine wreiddiau cadarn yn Ne Cymru ac mae hyn yn dangos yr hyder aruthrol sydd ganddo yn y gweithlu. Wrth i’r wlad ddechrau dod allan o’r dirwasgiad, dyma’r union fath o fuddsoddiad yr ydym am ei weld.”
Peter Hain yn falch o weld y Papur Gwyn ar ofal cymdeithasol yn cael ei gyhoeddi
Heddiw [Dydd Mawrth 30 Mawrth], roedd Peter Hain, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn falch o weld Papur Gwyn Llywodraeth y DU ar Ofal Cymdeithasol yn cael ei gyhoeddi ac mae wedi annog deialog barhaus rhwng Whitehall a Bae Caerdydd er mwyn mynd ag ef rhagddo.Ac yntau’n falch o weld y Papur Gwyn yn cael ei gyhoeddi, dywedodd Mr Hain: “Gan fod pobl yn byw’n hwy, mae’r galw am ofal yn parhau i gynyddu ac mae nifer o bobl yn wynebu loteri cod post dros gost eu gofal. Mae’r papur gwyn hwn yn nodi sut y bydd y Llywodraeth yn rhoi sylw i’r materion hyn, gan gynllunio system deg a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
“Mae Llywodraeth y Cynulliad, drwy ei Phapur Gwyrdd, Talu am Ofal yng Nghymru, eisoes yn gwneud gwaith rhagorol i fynd i’r afael â rhai o’r materion hyn ac mae’n hanfodol bwysig y ceir deialog gadarn a pharhaus rhwng Whitehall a Bae Caerdydd.  Bydd Swyddfa Cymru yn parhau i weithio’n agos â’r Adran Iechyd a Llywodraeth y Cynulliad i sicrhau bod goblygiadau’r newidiadau arfaethedig i’r systemau gofal yn y ddwy wlad yn cael eu deall yn llawn er mwyn i ni allu darparu gwasanaeth gofal o’r radd flaenaf y ddwy ochr i’r ffin.
Nodiadau
Mae’r Papur Gwyn yn nodi’r heriau sy’n wynebu’r system gofal a chymorth presennol ac yn cyflwyno’r achos yn glir dros ddiwygio’r modd y cyflwynir y system a’r modd y mae’n cael ei hariannu. Mae’n nodi cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer dull tri cham i ddiwygio’r system, gan arwain at Wasanaeth Gofal Cenedlaethol sydd am ddim i’r defnyddiwr.
Mae’r system bresennol ar gyfer talu am ofal yn rhwym wrth ddeddfwriaeth  Cymru a Lloegr, tra pery darparu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn fater datganoledig i Lywodraeth y Cynulliad.
Peter Hain yn croesawu gweledigaeth gyffrous newydd yng nghyswllt Newyddion Cymru
Heddiw, croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Peter Hain, fuddsoddiad £12m mewn teledu a’r cyfryngau yng Nghymru, gan longyfarch yr enillydd, Wales Live, ar ei “weledigaeth newydd gyffrous” ar gyfer platfform aml-gyfrwng o newyddion teledu, radio, papurau newydd a rhyngrwyd ac adrodd gwleidyddol.Yn dilyn penderfyniad gan banel dethol annibynnol, bydd peilot newyddion Wales Live yn cael ei redeg gan y partneriaid UTV a Phapurau Newydd Gogledd Cymru cyfyngedig.  Roedd Wales Live yn cynnig newyddion traws-blatfform o safon gan ddefnyddio teledu, radio a thechnolegau ar-lein a symudol er mwyn helpu i annog gwylwyr Cymru i gyfrannu at agenda newyddion Cymru, a theimlo’n rhan ohoni.
Y llynedd, ymddiddorodd Mr Hain yn bersonol yng nghynlluniau’r Llywodraeth i sefydlu tri pheilot Consortiwm Newyddion wedi’i Gyllido’n Annibynnol yng Nghymru, yr Alban a Tyne Tees.
Dywedodd Mr Hain: “Yr wyf wedi bod yn bryderus ynghylch safle bregus y gwasanaeth newyddion o Gymru ar sianel 3, a’r perygl y byddai ITV yn cefnu arno oherwydd ei gost.  Byddai hynny wedi bod yn niweidiol iawn i Gymru, gyda gwylwyr yn gwbl ddibynnol ar y BBC fel cyflenwr monopoli, er mor dda ydyw hwnnw.
“Mae angen dewis ar wylwyr Cymru, yn enwedig y dyddiau hyn, pan fo gan Gymru ei Chynulliad ei hun, sy’n magu mwy a mwy o bwerau deddfwriaethol, a’r Cynulliad hwnnw’n un y mae angen adrodd yn ei gylch a’i ddal i gyfrif am ei weithredoedd.”
Yn dilyn y newyddion mai bid Wales Live a ddewiswyd gan y Gweinidog Diwylliant, Ben Bradshaw, ar gyfer y peilot newyddion dwy flynedd yng Nghymru, sydd werth £12m, cyfarfu Peter Hain ag arweinwyr y Consortiwm, Michael Wilson, Rheolwr Gyfarwyddwr UTV a Barry Jones, Prif Olygydd Newyddion Gogledd Cymru, ym Mae Caerdydd i drafod eu cynlluniau.  Rhagwelir y bydd Wales Live yn darlledu o Hydref eleni ymlaen.
Bydd oddeutu 60 o staff cyfredol ITV yn trosglwyddo i Wales Live, a byddant hefyd yn defnyddio cyfleusterau cyfredol yng Nghaerdydd yn ogystal â chreu canolbwynt newyddion newydd i Ogledd Cymru yn yr Wyddgrug.  Bydd staff Newyddion Gogledd Cymru a Sain Abertawe hefyd yn ategu’r gwasanaeth newyddion.
Dywedodd Mr Hain: “Bydd cyhoeddiad heddiw yn sicrhau dyfodol newyddion annibynnol o safon yng Nghymru.  Carwn longyfarch Wales Live – roedd eu bid yn adlewyrchu’r symudiad tuag at ddyfodol digidol newydd technoleg newyddion yng Nghymru, a’r ffordd y bydd cynulleidfaoedd Cymru yn derbyn newyddion i’r dyfodol.
“Mae’n hollbwysig bod gan Gymru ei ddarparwr newyddion annibynnol Cymreig ei hun – un a fydd yn gwasanaethu ein cenedl ac yn adlewyrchu datganoli yng Nghymru yn briodol.
“Yr wyf yn diolch i’r holl fidwyr o Gymru am eu hymdrechion a esgorodd ar y bidiau mwyaf ysgubol a safonol a welwyd yn unrhyw un o’r tri rhanbarth peilot a gyhoeddwyd heddiw.  Yn wir, yr wyf yn llongyfarch Tinopolis, y cwmni cynhyrchu teledu sydd wedi’i leoli yn Llanelli, am fod yn bartneriaid yn y consortiwm newyddion a ddewiswyd ar gyfer yr Alban.  Mae hwn yn hwb aruthrol arall i’r diwydiannau cyfryngau creadigol sy’n ffynnu yma yng Nghymru.”
Peter Hain yn croesawu cyllideb i sicrhau swyddi a symbylu twf yng Nghymru
Heddiw, dywedodd Peter Hain, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y caiff Cymru bron i £50 miliwn o gyllid ychwanegol y flwyddyn nesaf.
Ac yntau’n siarad ar ôl i’r Gyllideb gael ei chyhoeddi heddiw, dywedodd Mr Hain: “Mae’r Canghellor Alistair Darling wedi cyhoeddi mesurau yn y Gyllideb a fydd yn sicrhau swyddi ac adferiad economaidd ac yn symbylu twf yng Nghymru – mesurau a fydd hefyd yn sicrhau cyllid cyhoeddus cynaliadwy yn y tymor canolig.
“Yn ogystal â gwireddu’r hyn a addawyd gennym yn yr adolygiad o wariant, a oedd yn darparu £500 miliwn ychwanegol o gyllid i Gymru, yn awr, o ganlyniad i symiau canlyniadol Barnett a gyhoeddwyd yn y Gyllideb heddiw, caiff Llywodraeth Cynulliad Cymru £50 miliwn ychwanegol i’w wario yng Nghymru y flwyddyn nesaf.
“Wrth gwrs, mae’n rhaid i’r Llywodraeth, fel pob teulu a busnes, fyw yn ôl ei modd. Mae’r Gyllideb hon wedi dangos yn glir sut y bydd y Llywodraeth yn cyflawni ei hymrwymiadau i adfer cyllid cyhoeddus, gan ddiogelu’r gwasanaethau cyhoeddus sylfaenol y mae pobl yn dibynnu arnynt ar yr un pryd. Rhaid i ni yng Nghymru, fel pob rhan arall o’r DU, fod yn fwy gofalus gyda’n harian er mwyn sicrhau’r arbedion effeithlonrwydd y mae eu hangen i haneru’r diffyg dros bedair blynedd a pharhau i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen Cymru.
“Mae’r Llywodraeth hon wedi rhoi mwy o gyllideb i Gymru ym mhob blwyddyn yr  Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant. O ganlyniad, y flwyddyn nesaf, bydd cyllideb Cymru yn fwy na dwbl yr hyn ydoedd yn 1997. Yr oedd yn llai na £7 biliwn bryd hynny ond mae bellach bron yn £16 biliwn. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau  bod yr adferiad economaidd yn parhau ac yn mynd rhagddo ac yn deall y gallai tynnu arian yn ôl yn rhy fuan roi’r adferiad hwn yn y fantol.  Mae hon yn Gyllideb a fydd yn sicrhau adferiad economaidd ac yn sbarduno twf yng Nghymru.”
Dywedodd Mr Hain y byddai pobl sy’n chwilio am waith, teuluoedd a phensiynwyr yng Nghymru’n dal i gael cymorth. Meddai: “Wrth i economi Cymru barhau i symud ymlaen at adferiad, bydd busnesau bach a chanolig arloesol yng Nghymru yn gallu gwneud cais am gymorth o Gronfa Twf Cyfalaf newydd y DU, sy’n werth £200 miliwn.
“Byddaf yn awyddus i weld cwmnïau o Gymru yn gwneud ceisiadau am gyfran o gronfa newydd sy’n werth £600 miliwn, a ddyrennir i borthladdoedd i gefnogi prosiectau ffermydd gwynt ar y môr. Gallai prosiectau yng Nghymru, megis y cynllun ‘canolfan ynni gwynt’ arloesol ar gyfer Ynys Môn fod yn gwbl addas i gael cymorth. Bydd y cynllun Banc Buddsoddi Gwyrdd newydd sy’n werth £2 biliwn a gyhoeddwyd heddiw hefyd yn cynorthwyo Cymru i fanteisio ar gyfleoedd i greu rhagor o swyddi yn yr economi werdd gan fod diwydiannau carbon isel yn rhan bwysig o’r adferiad economaidd yng Nghymru ac yn fuddsoddiad pwysig i ni ar gyfer ein twf yn y dyfodol.”
Ychwanegodd Mr Hain: “Bydd bron i 500,000 o gartrefi yng Nghymru yn parhau i gael Taliad Tanwydd Gaeaf. O blith y rheini, bydd 120,000 o bobl dros 80 oed yn gymwys i gael y taliad £100 ychwanegol.
“Yn y cyfamser, bydd oddeutu 210,000 o deuluoedd Cymru a 380,000 o blant yng Nghymru yn cael budd o’r cynnydd mewn Credyd Treth Plant. Bydd y cynllun Amser i Dalu ar gyfer cymorth treth busnes yn cael ei ymestyn, gan sicrhau budd i dros 11,000 o fusnesau ar hyd a lled Cymru.
”Mae bron i 14,000 o gartrefi yng Nghymru eisoes wedi cael eu cynorthwyo gan y cynllun Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais, felly rwy’n falch iddo gael ei ymestyn tan fis Rhagfyr. Yn y cyfamser, bydd y rheini sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf yng Nghymru yn gweld budd wrth i’r rhyddhad yn y dreth ar dreth stamp i Brynwyr Tro Cyntaf ddyblu o £125,00 i £250,000 eleni a’r flwyddyn nesaf.”
Peter Hain yn Croesawu’r Weledigaeth am Brifysgol Newydd yng Nghymru
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Peter Hain, wedi croesawu cynlluniau ar gyfer Prifysgol ddiweddaraf Cymru.
Dywedodd Peter Hain y bydd y Brifysgol arfaethedig, Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant, yng Ngorllewin Cymru, yn chwarae rôl hollbwysig i sicrhau bod system addysg uwch Cymru yn diwallu anghenion yr unfed ganrif ar hugain.
Yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyfrin Gyngor, bydd Prifysgol Cymru: Y  Drindod Dewi Sant yn cael ei chreu drwy ddod â Phrifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan a Choleg Prifysgol y Drindod at ei gilydd.  Mae’r datblygiad eisoes wedi sicrhau pecyn cyllid o £14.3 miliwn gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Ac yntau’n siarad yn lansiad y sefydliad newydd yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Mr Hain: “Bydd y Brifysgol arfaethedig, sef Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant, yn dwyn ynghyd ddau o sefydliadau hynaf Cymru, gan gryfhau’r ddarpariaeth ar gyfer Addysg Uwch yng Ngorllewin Cymru. Bydd yn darparu amgylchedd ddeinamig a fydd yn galluogi myfyrwyr i lwyddo.
“Mae gweledigaeth y Brifysgol yn arloesol. Gwelir y sefydliad yn parhau i ddenu myfyrwyr o bob cwr o Gymru, y DU a gweddill y byd. Hoffwn ddymuno pob llwyddiant i’r Brifysgol at y dyfodol, gan fod ganddi rôl allweddol i’w chwarae i sicrhau bod system addysg uwch Cymru yn diwallu anghenion yr unfed ganrif ar hugain.”
Dywedodd Dr Medwin Hughes, Darpar Is-Ganghellor Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant ac Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan a Choleg Prifysgol y Drindod: “Yn bendant, mae hyn yn gwneud hanes.  Y weledigaeth yw datblygu prifysgol sector deuol a fydd yn codi uwchlaw ffiniau addysg i greu llwybrau dilyniant cydlynus o ysgolion uwchradd a cholegau addysg bellach i addysg uwch. Bydd creu’r Brifysgol yn rhoi cyfleoedd sylweddol i ymgysylltu ag asiantaethau allweddol, gan gynnwys cyflogwyr, i roi cyfleoedd i fwy o bobl ennill sgiliau lefel uwch.”
Newyddion da i luoedd arfog Prydain ac i swyddi yng Nghymru medd Peter Hain wrth groesawu contract amddiffyn newydd gwerth £400 miliwn
Heddiw (22 Mawrth), dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol, Peter Hain, fod y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cyhoeddi y bydd fflyd newydd o 600 o gerbydau chwilio a chanfod arfog o bwysau canolig yn cael eu cyflenwi gan General Dynamics UK. Bydd hyn yn ei dro yn creu 200 o swyddi hyfedr newydd yng Nghymru ac yn diogelu 250 arall.Cyhoeddodd y Gweinidog Amddiffyn, Quentin Davies, fod General Dynamics UK wedi cael eu dewis i gyflenwi 600 o gerbydau chwilio a chanfod ‘Scout’ newydd yn lle’r cerbydau ‘Scimitar’ sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd yn Affganistan. Mae’r cerbyd ‘Scout’ yn un o brif flaenoriaethau cyfarpar Byddin y DU a bydd ganddo’r systemau digidol diweddaraf, arfwisg a chanon 40mm newydd â thelesgop wedi’i orchuddio.
Yn ystod ymweliad â ffatri General Dynamics, gyda Quentin Davies, yn Nhrecelyn, Gwent, dywedodd Mr Hain: “Mae’r cyhoeddiad a wnaethpwyd heddiw’n golygu bod pawb ar ei ennill yng Nghymru. Mae’r contract hwn, sy’n werth bron i £400 miliwn i’r gadwyn gyflenwi yng Nghymru, yn creu 200 o swyddi hyfedr ychwanegol ym maes peirianneg yn ne-ddwyrain Cymru ac yn diogelu 250 o swyddi sy’n bodoli eisoes yng Nghymru.
“Pan fydd y cerbydau arbenigol newydd hyn yn dechrau cael eu defnyddio byddant yn sicrhau buddion sylweddol i’n lluoedd arfog hefyd pan fyddant yn gwasanaethu dramor mewn lleoedd fel Affganistan. Bydd yn cynnig gwell gwarchodaeth, mwy o rym tanio, systemau gweld a sensoriaid sy’n gweithio dros bellter hwy, a byddant yn fwy dibynadwy.
“Mae’r contract amddiffyn newydd hwn yn newyddion gwych felly i luoedd arfog y DU sy’n gwasanaethu dramor ac i economi Cymru.”
Peter Hain yn dathlu bod Bae Caerdydd yn denu diwydiannau creadigol a digidol
Yn ôl Peter Hain, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, bydd Bae Caerdydd yn denu diwydiannau creadigol a digidol newydd wrth i bentref drama newydd BBC Cymru Wales gael ei ddatblygu ym Masn y Rhath.Ar ôl gweld rhagolwg o gyfres newydd Dr. Who yng Nghaerdydd neithiwr, dywedodd Mr Hain: “Mae’r Dr Who newydd, Matt Smith, yn wych. Doeddwn i ddim yn meddwl y gallai neb lenwi esgidiau David Tennant, ond mae Matt wedi mynd â’r cymeriad i lefel newydd a chyffrous. Gall y rheini sy’n dilyn y gyfres edrych ymlaen at raglenni cyffrous a fydd yn sicr yn codi braw arnynt.
“Roedd yn bleser clywed Matt Smith, y Dr Who newydd, yn canmol cyfeillgarwch pobl Cymru ac yn dweud bod Caerdydd yn lle delfrydol i ffilmio. Pan ddywedodd na fyddai byth wedi bod hanner cystal ffilmio Dr. Who yn Llundain o’i gymharu â Chaerdydd, roedd hynny’n hwb go iawn. Nawr, gyda phentref drama newydd y BBC ym Mae Caerdydd, gall Cymru ddenu’r mentrau creadigol a digidol newydd.”
Bydd gwaith yn dechrau ar bentref drama newydd y BBC ymhen ychydig fisoedd ac yn dwyn ynghyd amrywiaeth o ddramâu’r BBC, gan gynnwys Doctor Who, Casualty ac opera sebon hiraf y BBC i gael ei darlledu ar y teledu – Pobol y Cwm.  Bydd rhaglen Casualty yn dechrau cael ei chynhyrchu yng Nghymru o haf 2011 ymlaen.