Archif: Datganiadau i’r wasg

Teithwyr o Gymru sy’n methu dod adref i gael cymorth gan lywodraeth y Deyrnas Unedig, medd Peter Hain
20 Ebrill 2010 | Datganiadau i'r wasg
Heddiw, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Peter Hain, fod cefnogi dinasyddion Cymru sy’n methu dod adref o dramor oherwydd y lludw folcanig ar frig rhestr flaenoriaethau’r Llywodraeth. Dywedodd y byddai’r Llywodraeth yn gwneud popeth o fewn ei gallu i helpu’r bobl sy’n cael trafferth dychwelyd i’r DU ac i sicrhau yr amherir cyn lleied â phosibl [...]

Wayne David yn agor canolfan datblygu technoleg newydd Norgine yn Hengoed
30 Mawrth 2010 | Datganiadau i'r wasg
Heddiw [dydd Gwener 26 Mawrth] yn Hengoed, De Cymru, bu Wayne David, Gweinidog Swyddfa Cymru, yn agor Canolfan Datblygu Technoleg newydd grŵp fferyllol Norgine yn swyddogol. Mae hi’n Ganolfan o’r radd flaenaf sy’n werth £4 miliwn.Bydd y Ganolfan newydd, a fydd yn cynnwys cyfres o labordai modern, yn creu oddeutu 20 o swyddi newydd ac [...]

Peter Hain yn falch o weld y Papur Gwyn ar ofal cymdeithasol yn cael ei gyhoeddi
30 Mawrth 2010 | Datganiadau i'r wasg
Heddiw [Dydd Mawrth 30 Mawrth], roedd Peter Hain, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn falch o weld Papur Gwyn Llywodraeth y DU ar Ofal Cymdeithasol yn cael ei gyhoeddi ac mae wedi annog deialog barhaus rhwng Whitehall a Bae Caerdydd er mwyn mynd ag ef rhagddo.Ac yntau’n falch o weld y Papur Gwyn yn cael ei gyhoeddi, [...]

Peter Hain yn croesawu gweledigaeth gyffrous newydd yng nghyswllt Newyddion Cymru
25 Mawrth 2010 | Datganiadau i'r wasg
Heddiw, croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Peter Hain, fuddsoddiad £12m mewn teledu a’r cyfryngau yng Nghymru, gan longyfarch yr enillydd, Wales Live, ar ei “weledigaeth newydd gyffrous” ar gyfer platfform aml-gyfrwng o newyddion teledu, radio, papurau newydd a rhyngrwyd ac adrodd gwleidyddol.Yn dilyn penderfyniad gan banel dethol annibynnol, bydd peilot newyddion Wales Live yn cael ei [...]

Peter Hain yn croesawu cyllideb i sicrhau swyddi a symbylu twf yng Nghymru
24 Mawrth 2010 | Datganiadau i'r wasg
Heddiw, dywedodd Peter Hain, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y caiff Cymru bron i £50 miliwn o gyllid ychwanegol y flwyddyn nesaf. Ac yntau’n siarad ar ôl i’r Gyllideb gael ei chyhoeddi heddiw, dywedodd Mr Hain: “Mae’r Canghellor Alistair Darling wedi cyhoeddi mesurau yn y Gyllideb a fydd yn sicrhau swyddi ac adferiad economaidd ac yn symbylu [...]

Peter Hain yn Croesawu’r Weledigaeth am Brifysgol Newydd yng Nghymru
23 Mawrth 2010 | Datganiadau i'r wasg
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Peter Hain, wedi croesawu cynlluniau ar gyfer Prifysgol ddiweddaraf Cymru. Dywedodd Peter Hain y bydd y Brifysgol arfaethedig, Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant, yng Ngorllewin Cymru, yn chwarae rôl hollbwysig i sicrhau bod system addysg uwch Cymru yn diwallu anghenion yr unfed ganrif ar hugain. Yn amodol ar gymeradwyaeth y [...]

Newyddion da i luoedd arfog Prydain ac i swyddi yng Nghymru medd Peter Hain wrth groesawu contract amddiffyn newydd gwerth £400 miliwn
22 Mawrth 2010 | Datganiadau i'r wasg
Heddiw (22 Mawrth), dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol, Peter Hain, fod y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cyhoeddi y bydd fflyd newydd o 600 o gerbydau chwilio a chanfod arfog o bwysau canolig yn cael eu cyflenwi gan General Dynamics UK. Bydd hyn yn ei dro yn creu 200 o swyddi hyfedr newydd yng Nghymru ac yn diogelu [...]

Peter Hain yn dathlu bod Bae Caerdydd yn denu diwydiannau creadigol a digidol
19 Mawrth 2010 | Datganiadau i'r wasg
Yn ôl Peter Hain, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, bydd Bae Caerdydd yn denu diwydiannau creadigol a digidol newydd wrth i bentref drama newydd BBC Cymru Wales gael ei ddatblygu ym Masn y Rhath.Ar ôl gweld rhagolwg o gyfres newydd Dr. Who yng Nghaerdydd neithiwr, dywedodd Mr Hain: “Mae’r Dr Who newydd, Matt Smith, yn wych. Doeddwn [...]

Peter Hain yn tynnu sylw at ostyngiad yn nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau yng Nghymru
18 Mawrth 2010 | Datganiadau i'r wasg
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Peter Hain wedi tynnu sylw at ostyngiad parhaus yn nifer y bobl yng Nghymru sy’n hawlio budd-daliadau diweithdra wrth i Ystadegau diweddaraf y Farchnad Lafur gael eu cyhoeddi heddiw (17 Mawrth).Syrthiodd nifer y bobl yng Nghymru sy’n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith 1,900 i 78,000 ym mis Chwefror, o’i gymharu â’r mis [...]

Peter Hain yn Croesawu Datblygiad Cynlluniau I Drydaneiddio’r Rheilffordd rhwng De Cymru a Llundain
11 Mawrth 2010 | Datganiadau i'r wasg
Heddiw croesawodd Peter Hain Ysgrifennydd Gwladol Cymru y cyhoeddiad bod y cynllun gwerth £1 biliwn i drydaneiddio’r brif reilffordd rhwng De Cymru a Llundain yn mynd rhagddo. Cadarnhaodd y Gweinidog Trafnidiaeth yr Arglwydd Adonis ymrwymiad y Llywodraeth i drydaneiddio Prif Lein y Great Western rhwng De Cymru a Llundain, ynghyd â buddsoddiad o £250m yn [...]